Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Health and Social Care Committee

 

 

 

Mark Drakeford AC

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

 

10 Rhagfyr 2014


Annwyl Mark,

 

Cyllid iechyd a diwygio

 

Byddwch yn ymwybodol bod adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 yn argymell y dylai’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymgymryd â darn o waith ar ddiwygio iechyd cyn diwedd y Cynulliad hwn.

 

Mae’r Pwyllgor o’r farn, er mwyn rhoi ystyriaeth ddigonol i ddiwygio gwasanaethau iechyd, y byddai unrhyw ymchwiliad i’r pwnc hwn, o reidrwydd, yn fanwl a chymhleth. Mae’r Pwyllgor yn wynebu nifer o flaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd rhwng nawr a’r etholiad yn 2016; er mwyn helpu i lywio ei benderfyniad ynghylch a oes angen unrhyw waith pellach yn y maes hwn, ac a oes ganddo’r amser angenrheidiol i wneud cyfiawnder â’r pwnc, byddai’n ddiolchgar o dderbyn rhywfaint o wybodaeth bellach yn ysgrifenedig gennych.

 

Yn eich ymateb i lythyr y Pwyllgor ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2015-16, dywedasoch fod angen y mwyafrif o’r cyllid ychwanegol a ddyrannwyd yn 2014-15 a 2015-16 i gynnal y lefelau gwasanaeth presennol, ac y bydd y broses gynllunio tair blynedd yn cael ei defnyddio i weithredu’r modelau newydd a mwy arloesol o ddarparu gwasanaethau. Nododd eich ymateb hefyd y bydd cynlluniau gwasanaeth integredig y GIG yn sicrhau y darperir y modelau gwasanaeth a’r canlyniadau cywir ar gyfer cleifion.

 

Nododd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y Gyllideb Ddrafft 2015-16 ei bryderon am y dystiolaeth, yn ôl pob golwg sy’n gwrthdaro, a gafodd am y sail resymegol sylfaenol i’r cynnydd mewn adnoddau. Nododd, er bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd yn cyd-fynd â diwygio, dywedodd rhai tystion o’r sector iechyd y byddai’r cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i "lenwi bwlch" i fynd i’r afael â diffygion a ragwelir yng nghyllid byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd.

 

Roedd llythyr diweddar gan Dr Andrew Goodall at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (dyddiedig 10 Tachwedd) yn crynhoi’r hyn a adroddwyd yn gyhoeddus ar sefyllfa ariannol ddiweddaraf y byrddau a’r ymddiriedolaethau iechyd, hanner ffordd drwy’r flwyddyn ariannol 2014-15. Mae’r llythyr yn tynnu sylw at risg sy’n dod i’r amlwg bod rhai byrddau iechyd yn rhagweld anhawster i ddal pen llinyn ynghyd o ran eu cyllidebau eleni. Mae’r rhagolygon presennol ynghylch diffygion yn gyffredinol yn uwch na’r £200 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer y gwasanaeth iechyd ar gyfer 2014-15 ym mis Medi eleni.

 

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar i dderbyn y wybodaeth ganlynol er mwyn llywio ei ystyriaeth o argymhelliad y Pwyllgor Cyllid:

 

Ariannu presennol

-     O gofio’r dystiolaeth, yn ôl pob golwg, sy’n gwrthdaro y cyfeirir ati uchod, cadarnhad ynghylch a oes cynlluniau wedi’u cadarnhau ar gyfer y cyllid ychwanegol ar gyfer 2014-15 a 2015-16, i gael ei ddefnyddio i ddiwygio gwasanaethau iechyd, neu i gynnal y lefelau gwasanaeth presennol yn unig;

-     Cadarnhad o ddosbarthiad, a gynlluniwyd neu a gytunwyd, y cyllid ychwanegol o £200 miliwn sydd ar gael ar gyfer byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd unigol yn 2014-15, cyn gynted ag y penderfynir ar y ffigurau hyn, gan gynnwys sut y cyfrifwyd y dyraniadau;

-     Cadarnhad o’r cyllid ychwanegol sydd ar gael i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd unigol yn 2015-16, gan gynnwys sut y cyfrifwyd y dyraniadau hyn, pan fyddant ar gael (mae’r Pwyllgor yn nodi, yn eich ymateb i’w lythyr ar y Gyllideb Ddrafft 2015-16, rydych eisoes wedi cytuno i ddarparu’r wybodaeth hon);

-     Amlinelliad o sut y bydd y cyllid ychwanegol o £70 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yn dilyn Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU, yn cael ei dargedu i "gefnogi’r GIG yng Nghymru i ymgymryd â’r gwaith diwygio, a’r newid sydd ei angen i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth iechyd yng Nghymru", fel y nodwyd yn ei datganiad ysgrifenedig ar 3 Rhagfyr;

-     Crynodeb o’r dyddiadau allweddol yn amserlen 2015 ar gyfer cytuno ar gynlluniau tair blynedd, gan ddechrau gyda’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynlluniau yn Ionawr 2015.

 

Cyllid yn y dyfodol a chynaliadwyedd yn yr hirdymor

-     Amlinelliad o ganlyniadau ychwanegol, os o gwbl, sydd i’w cyflawni gyda’r cyllid ychwanegol yn 2014-15 a 2015-16;

-     Amlinelliad o’r trefniadau sydd wedi’u gwneud neu a fydd yn cael eu gwneud i fonitro canlyniadau’r buddsoddiad hwn;

-     Amlinelliad o unrhyw gynlluniau a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i asesu a yw gwasanaethau yn cael eu diwygio fel y bwriadwyd, a hefyd y lefelau cyllid sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwasanaeth iechyd ar ôl 2015-16, er mwyn sicrhau bod darparu gwasanaethau yn parhau i fod yn gynaliadwy.

 

Y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a chynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu maes o law i ofyn am wybodaeth am y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar i dderbyn y wybodaeth a amlinellir uchod erbyn 6 Chwefror, 2015.

 

Yn gywir,

 

 

David Rees AC

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol